Page images
PDF
EPUB

gylchiadau ar y pryd; ond wedi dod i feddiant o olud lawer yn ddisymwth, a symuda i dŷ fo mwy i ateb i'w gyfoeth ychwanegol; felly wedi i ddyn feddiannu y fath gyfoeth o wybodaethau newyddion am y byd oddi allan, mae yn naturiol ei weled yn eu troi i'w wasanaeth i wybod mwy am ei fyd mewnol ei hunan; ond ystyrier hyn, mae y cyfoeth newydd hwn o wybodaeth yng nghylch ffeithiau o'r cwmpas yn galw yn uchel am bwyll a gofal gydag ef, i'w drin, ei drefnu a'i ddehongli yn briodol. Dywedir na bu adeg erioed yn nghwrs hanesiaeth y meddwl, ag y bu cymaint o angen am bwyll a barn a hunanfeddiant tawel, ag y sydd yn y dyddiau presenuol gyda'r cwestiynnau hyn.

Yna dywed yr awdwr fod yr eangiad hyn yn y syniadaeth a enwyd, yn effeithio ar y safle grefyddol. Dengys fod y berthynas agosaf yn bodoli rhwng Dynyddiaeth a Duwinyddiaeth (Anthropology and Theology), yr hyn fydd syniadau dyn am dano ei hun, a reola ei syniadau am Dduw-os synio am dano ei hun fel creadur y llwch yn unig y bydd dyn, nis gall esgyn yn uchel yn ei syniad am Dduw personol, fel y dywedodd un, “A meagre anthropology has for its counterpart a meagre theology." Ond ymddengys llawer o'r ddysgeidiaeth ddiweddar ar ddadblygiad, fel yn ffurfio meagre anthropology,—yn tynu dyn i lawr oddiar ei hen orsedd gydnabyddedig fel arglwydd y greadigaeth, ac yn ei ddodi ar yr un gwaelod isel a'r anifail a ddifethir, ac yn dinystrio stori y Beibl am greadig. aeth; ei ddiniweidrwydd, a'i gwymp, ac yn gwaghau y fath eiriau a phechod a llygredd, o bob drygedd; gan wneud y pethau a alwn ni wrth y cyfryw enwau yn ddim gwaeth nag anorffenrwydd mewn ffurf, tra ar risiau sicr esgyniad dyn ar i fyny. Aflonydda y ddysg. eidiaeth hefyd ein ffydd yn nhrefn iachawdwriaeth yr enaid, am y tybir ei bod yn gwneud yr Ymgnawdoliad, yr lawn, a'r Adgyfodiad yn bethau nas gellir eu credu, gan fod y cyfryw bethau yn golygu toriad ar gwrs rheolaidd hanes, a dadblygiad bywyd. Yna dywed yr awdwr mai yn nglyn a'r anhawsderau hyn y bwriada efe ymgodymu drwy y Llyfr. Dyma addewid werthfawr yn ddiau, a chrea awydd ynom i ddilyn yr awdwr drwy yr holl drafodaeth.

Ond y mae ganddo air yn mhellach eisieu ei ddweyd cyn cloi y bennod hon i fyny, a difyr i ninnau hefyd fydd dal ar hynny. Dywed y bydd dau ddosbarth o bobl yn siwr o wneud cilolwg arno, wrth gynnyg gwneud ychydig ad-drefniad ar ein duwinyddiaeth gyfundrefnol. Un dosbarth yw yr un sydd wedi troi cefn ar y ffydd Gristionogol yn hollol, ac felly yn dal fod son am ad-drefniad fel peth ffol, yn gymaint nad oes yma, medda nhw, ddim dewisiad heb. law rhwng ofergoeliaeth hollol anngredadwy ar un llaw, a datganiad pendant a di-droi-yn-ol anmhosiblrwydd (non possumus) ar y llaw

arall. Ond dywed, na bydd dim darpariaeth yn y llyfr ar gyfer y cyfryw rai, yn gymaint ag y bydd efe yn traethu oddiar safle ag y maent hwy yn ei wrthod. Pobl y dosbarth arall ydynt y rhai a'i cyfrifant yn drosedd o annheyrngarwch i'r ffydd a goleddant i gynnyg unrhyw ad-drefniad ar yr athrawiaeth, mewn trefn i gwrdd â syniadau y gwyddonwyr hyn, gan yr haerant y newidiant eu syniadau bron bob blwyddyn, ac nad oes dim sicrwydd y bydd y syniadau sydd ganddynt heddyw yn cael eu coleddu ganddynt yfory. Rhai a ddywedant mai llwfrdra hollol yw son am ad-drefniad. Dywed yr awdwr hefyd, nad oes ganddo ddim yn well i ddweyd wrth y cyfryw nag am iddynt "fyned y ffordd arall heibio," am na bydd yma ddim o fewn y llyfr at eu chwaeth hwythau. Safle y dosbarth cyntaf yw gwrthod Cristionogaeth a derbyn dadblygiad. Safle y llall yw derbyn Cristionogaeth a gwrthod dadblygiad. Pa le y safwn ni?

Ond wrth derfynu y bennod hon dywed yr awdwr fod yma ddigon o le gennym i dderbyn athrawiaeth lydan o ddadblygiad, heb rwymo ein hunain o gwbl wrth bwyntiau amheus mewn manylion. Ac fod y ddamcaniaeth hon yn ei phethau hanfodol wedi dod i aros yn ein plith, ac y bydd iddi yn y pen draw effeithio ar bob adran o ddysg perthynol i ni.

Meddiannwn ninnau ein henaid mewn amynedd. Wynebwn anhawsderau y ddysgeidiaeth gyda meddwl agored. Nac ofnwn ddim ond cyfeiliornad. Ni ddylem betruso derbyn gwirionedd o ba le bynnag y daw. Gweddiwn am oleuni Duw ar y daith.

PENNOD II.

Yn y bennod gyntaf, nid oedd yr awdwr ond yn dangos y ffordd a rodiai tuagat gymeryd ei safle broffesedig ar Ddamcaniaeth Dadblygiad, ac felly, er mwyn amser; yr oedd hynny yn hebgor beirniadaeth i fesur oddiwrthym ninnau; ond yn y ddwy bennod nesaf, ymgymera yr awdwr âg ateb y cwestiwn, Beth yw Dadblygiad? a Beth yw pertbynas Dadblygiad â dyn? h.y., Pa gyfrif a rydd hi am fodolaeth dyn? Byddwn yn rhwym o deimlo yma fod y materion hyn yn destynau beirniadaeth. Canys y maent yn dyfod adref atom ni fel athrawon rhai eraill.

Ni chaniata gofod nac amser i ni dynu amlinelliad o ymresymiadau yn y pennodau hyn, er y buasai hynny yn waith pleserus gennym, ond ymdrechaf ddangos safle yr awdwr yn nglyn â materion mwyaf byw pob adran, ac yna gynnyg beirniadaeth. Canys megis mai gwaith yr awdwr ei hun oedd egluro safleoedd gwyr eraill yn nglyn â Damcaniaeth Dadblygiad, ac wedi hynny dweyd ei safle ei hun, felly yn hollol yr ymdrechwn ninnau wneud yn ei berthynas âg yntau.

Ond caniataer i mi ddweyd gair bychan yn y fan hon, rhag ofn y bydd eisieu i mi ei ddweyd eto, mewn trefn i symud ymaith bob rhagfarn. Cofier nad wyf fi yn gosod fy hun i fyny fel un math o oracl ar y mater hwn, nac am ystyried fy hun mewn un modd ysgwydd yn ysgwydd â'r Parch. Griffith Jones yn y ddysgeidiaeth hon; ond yn hytrach o lawer, yr wyf am gael edrych arnaf fel dysgybl gostyngedig wrth draed yr awdwr galluog, ac yno yn unig ac yn hollol, ar ol myfyrio ar y pethau a draethodd efe wrthyf, yn dweyd fy anhawsderau a'm syniadau fy hun ar y pethau hynny, gan gymeryd cysgod wrth yr hen ddihareb gyfleus: "Rhydd i bob un ei farn, ac i bob barn ei llafar."

Cwestiwn cyntaf yr awdwr yn yr ail bennod yw, Beth ydyw Dadblygiad? Ac ar ol ychydig sylwadau pwrpasol ar y pwys o ddarnodi termau a glynu wrth ystyr bendant iddynt pan yn sefydlu unrhyw gangen o ddysgeidiaeth; yna efe a ä ym mlaen i chwilio am y darnodiad mwyaf boddhaus y gall gael gafael arno. Dewisa ddarnodiad Prof. Le Conte: "A continuous progressive change, according to certain laws, by means of resident forces." Efallai y gwna y Cymreigiad a ganlyn y tro am dano: "Newidiad parhaus gynnyddol, yn ol deddfau arbennig, drwy gyfrwng galluoedd mewnol. Mae yr awdwr yn foddlon ar y darnodiad hwn, tra y cymerir gofal am yr ystyron a roddir i'r gwahanol dermau wrth eu hegluro. Yna cymer yntau y termau mewn llaw o un i un: Golyga "Newidiad;" newidiad o'r syml i'r cyfansawdd; o'r unrhywiol i'r amrywiol. Newidiad "parhaus gynnyddol;" ond yma rhydd yr awdwr ni ar ein gocheliad gyda'r term parhaus gynnyddol, am nad yw yn barhaus gynnyddol gyda golwg ar amrywiad, y mae terfyn ar amrywiad. Ond paham

y mae terfyn ar amrywiad; ie, paham? There is the rub! (Ondid oedd yma gyfleusdra bach i Mr. Jones i ddweyd gair bychan yn ffafr ei Feistr yn y fan hon ?) Ond ä ym mlaen gan alw y termau nesaf i'r ymwared. " Yn ol deddfau arbennig;” y deddfau hynny sydd i roi cyfrif am y newidiad hwn. Enwa dair o ddeddfau: Deddf etifeddiaeth, yr epil ar ddelw y rhiant; deddf amrywiaeth, er y ceir yr epil ar ddelw y rhiaint, mae yn amrywio bron ym mhopeth heblaw ei fod yn meddu gwahanfodaeth; a deddf unoliaeth, un sydd yn dangos fod y newidiad, er yn gynnyddol a pharhaus, eto nid ar rai o agweddau o'r gwrthrychau, ond y cyfanswm ohono. Mae yma un gallu yn cynyrchu yr oll o'r cyfnewidiadau, a'r holl gyf newidiadau yn cadw unoliaeth y gynddelw (deddfau di-Dduw sydd yma eto). Yna daw at adran olaf y darnodiad, sef ei fod yn newidiad drwy gyfrwng “galluoedd mewnol” (resident forces). Dyma derm pwysicaf y darnodiad, Beth a roddir yn ystyr i'r resident forces? Ar hyn y mae ystyr y darnodiad yn dibynu. Pe na roddid ond ystyr deddf i'r resident forces, gallai dadblygwyr materyddol fodd.

loni ar y darnodiad, ond pe rhoddem Dduw personol i gael ei olygu yma, atebai i safle dadblygwyr Cristionogol. Rhaid ystyried y byd cylchynol yn gystal a'r byd mewnol yma. Coffeir ni yn y fan hon am gymhariaeth yr ŵy, fel engraifft oreu y dadblygwyr materyddol o ddull dygiad y byd i fod: ond nid yw yr ŵy yn cynnyrchu y cyw heb wres oddiallan yn gystal a'r gallu oddifewn; ac felly, pe dygid Duw i fewn i'r term resideut forces, mae yr awdwr yn boddloni ar y darnodiad hwn.

Nid oes gennym ninnau fawr heblaw cydsynio â'r darnodiad hwn, ond y mae gennym air o deimlad i'w ddweyd wrth yr awdwr am y dull a gymerodd i'w egluro. Ymddengys yr awdwr i mi fel am chwareu i ddwylaw y dadblygwyr hyd y gall, a hynny i anhegwch â'r dosbarth a wawdir fel diwinyddion, ac o bosibl â'r gwirionedd tragwyddol ei hun. Sylwer ar y dull digymdeithas (â Duw) y symuda drwy y termau. Sonia yn gyntaf am y change (dim awgrym am y meddwl oedd yn ei achosi). Yna continuous, progressive, certain laws, a resident forces, ac ar ol sylwi tipyn ar y resident forces, addefa y rhaid i hyn olygu Duw. Gofynaf (iaith teimlad yn bennaf yw hyn), Ai dyma y dull mwyaf teyrngarol i'r ddwy blaid, ac i Dduw yn arbennig, o drin y darnodiad hwn. Onid y dull mwyaf rhesymegol ac athronyddol, o ran hynny, o drin y darnodiad hwn, ar ol son am y change, fyddai nodi yr Hwn oedd yn achosi y change, yn enwedig gan un broffesa mai Duw personol, oedd hwnnw, felly caem gerdded ym mlaen drwy y darnodiad yn ei law a'i oleuni ef. Ond ymddengys i mi fod rhywbeth yn y dadblygwyr oll, fel pe na byddent am son am Dduw os gallant beidio, ac os soniant, gwnant o orfod, fel Charles Darwin, a phan y gwnant, gwnant yn y diwedd fel Mr. G. Jones yn yr eglurhad o'r darnodiad crybwylledig. Pe dywedasai Mr, Jones am awdwr y change ar y dechreu, cawsem felly fynd yn llaw ddibetrus Duw drwy anialwch sych y change, y continuous, y progressive, y certain laws, a'r forces, "canys yn ei oleuni Ef y gwelwn ni oleuni." Paham y rhaid i ni fod yn hwyrfrydig i son am ein Duw? Ac y mae yn syn gennym fod neb fo yn pregethu yr Ysgrythyrau dwyfol bob Sabboth yn cornelu cymaint ar Dduw wrth egluro rhyw ddarnodiad o science fel hyn. Blin gennyf feddwl mewn amgylchiad fel hwn y gall y bluen fod yn dangos cyfeiriad y gwynt.

Wedi sylwi fel hyn ar ddadblygiad fel newidiad parhaus, dengys fod hanes arbennig i'r newidiad hwn, sef fod yr hyn a elwir toriadau (breaks) wedi cymeryd lle amryw weithiau yng ngwrs dadblygiad y byd a'i breswylwyr. Enwa dri o'r breaks hyn. Y cyntaf, Ymddangosiad bywyd,-y bywyd organaidd. Yr ail, Ymddangosiad bywyd teimladol bywyd yr anifail, ac ymddangosiad bywyd hunanymwyb:

yddol, sef y bywyd dynol. Nid oes dim byd yn wreiddiol i'r awdwr fel gwyddorydd, nac fel duwinydd yn y rhaniad tlws hwn, canys clywir y pethau hyn yn aml gan y pregethwr ieuane yn ei flwyddyn golegol gyntaf.

Ond yn nglyn â'r adran hon, gadewch i mi ddweyd yn gyntaf oll nad wyf yn hoffi y gair break yn y cysylltiad hwn, ar dir gwyddoniaeth na duwinyddiaeth. Ar dir gwyddoniaeth buasai yn well gennyf y gair burst na'r gair break; mae y gair break yn cyfleu y syniad o wendid, ond cyflea y gair burst y syniad o nerth mewnol, yr hyn dybiaf sydd yn fwy cydweddol âg egwyddorion damcaniaeth dadblygiad ei hun: ac wedi darllen yn nes yn mlaen yn y llyfr, gwelais y gwneir dyfyniad o frawddeg o eiddo Dr. Martineau i egluro arwedd arbennig ar y pwnc, ac yno mae y Dr. dysgedig yn defnyddio y gair burst, yr hyn a'm cadarnhaodd yn fawr yn y syniad y byddai y gair burst yn well na'r gair break i'w ddefnyddio gan y gwyddonwyr yn y cysylltiadau hyn. Ond y mae gennyf air arall yn nglyn a'r break yma. Paham mai tair a nodir? Onid oedd yno bedair o'r un nodwedd yn hollol ag a enwir? Onid y break gyntaf oedd llanw y gofod, a fu yn wag er tragwyddoldeb, à mater? Paham na ddechreuasid cyfrif yn y fan hon? Ha! mae yr atebiad yn barod ar dir gwyddoniaeth ei hunan. Nid oes gan y ddamcaniaeth fawr sydd am fod yn frenhines y gwyddorau gymaint a lle i roi troed ei gorsedd i lawr wrth y break hwnnw. Dim ond dysgeidiaeth yr Hen Lyfr sydd yn anturio, pe anturio hefyd, at y break cyntaf. "Yn y dechreuad y creodd Duw y nefoedd a'r ddaear." Mae y peth pwysicaf mewn awyr tuhwnt i awyr dadblygiad.

[blocks in formation]

Hefyd, mewn perthynas i air arall, sydd fel yn dangos cyfeiriad y gwynt, y mae gennym wrthwynebiad i'r gair appearance-appear. ance of life. Paham na buasai yr awdwr, ac efe yn Efengylydd Cristionogol, pan yn ysgrifennu ar y ddamcaniaeth hon yn ei pherthynas à thair o athrawiaethau mwyaf arbennig duwinyddiaeth, yn ymwroli i ddefnyddio un o dermau pendant y Beibl, ac yn dyweyd creadigaeth, creadigaeth bywyd organaidd, creadigaeth bywyd hunan-ymwybyddol, yn lle appearance? Mursendod llew gerbron llygod yw gwaith duwinydd yn peidio defnyddio termau pendant y Beibl rhag ofn codi gwrychyn yn mwng gwyddonwyr. Nid ydym yn gweled rheswm dros i neb droi o'r neilldu mor ddiseremoni eiriau yr Hen Lyfr. Yr ydym yn drwgdybio cyfeiriad y gwynt gyda'r gair appearance yn lle y gair creu.

Yn yr adran nesaf, mae yr awdwr fel yn dod yn nes atom, dywed mai y cwestiwn presennol yw: Nid beth yw ein syniad ni am natur ar ei phen ei hunan, ond beth yw ein syniad ni am Dduw yn

« EelmineJätka »