Page images
PDF
EPUB

un o fuddugoliaethau Fingal, ac y mae'r bardd yn cyfarch y garreg. gan ofyn iddi ddywedyd yr hanes "wrth y gweiniaid, wedi pallu hiliogaeth Selma." Oni ofynnai rhywun wrth weled y meini, "Pieu y bedd?" fel y gofynnid yng Nghymru gynt?

Un o'r pethau mwyaf nodedig yn y cerddi hyn yw gallu'r bardd åg ychydig frawddegau byrion, cryno, i godi o flaen y meddwl lun byw o'r hyn y bo yn ei ddisgrifio. Weithiau, âg un gyffelybiaeth, cynyrcha effaith nad allasai y disgrifiad manylaf mo'i gynyrchu. Disgrifia fyddin yn cyfodi "megys y cyfyd haid o adar môr, pan fwrio'r don hwy oddi ar y traeth," a'i rhuthr drachefn yn rhes ar res fel "ehediad cysgodau duon yr hydref dros fryniau gwelltog." Dacw ddwy fyddin yn cyfarfod fel ystormydd yr hydref, yn cymysgu fel ffrydiau ar y gwastadedd, a'r frwydr yn ymdywallt ymlaen "fel niwl a fo'n rholio hyd y cwm, pan lamo'r ystorm i heulwen ddistaw'r nef." Ac ynghanol y berw, mae'r bardd yn codi ei lais ac yn "tywallt ei enaid i feddyliau'r dewr." Effeithiol dros ben yw'r disgrifiad o wyr Cuchulainn, ar ol eu trechu mewn brwydr, "fel llwyn a'r fflam wedi rhuthro drwyddo a gwyntoedd y nos ystormus yn ei gyrru; yn bell, yn wyw a du y safant, heb ddeilen i'w hysgwyd yn y gwynt."

Ond i mi, cynefindra y bardd â Natur wyllt a'i rhyfeddodau o fynydd i fôr sydd fwyaf ei swyn. Dichon nad yw'r cerddi mor hen ag y mynnai rhai, ond pwy bynnag a'u canodd, yr oedd Natur yn ei haml foddau yn gynefin iddo. Nid allasai beirdd y cerddi meirwon i'r bugeiliaid a'r bugeilesau a'r enwau Groeg a Lladin, fyth mo'u canu. Ni welodd y rhai hynny Natur ei hun, a digon ganddynt ail adrodd a ddywedodd y beirdd clasurol am dani. Prydyddiaeth felly oedd prydyddiaeth Saesneg oes Macpherson, ac y mae ei gerddi cynnar yntau cyn syched â dim ohonni. Ond am awdwr y cerddi hyn, nid ail llaw oedd ei wybodaeth ef am Natur; a cheir yn ei ddisgrifiadau a'i gyffelybiaethau fanyldeb a chraffter un a welodd yn aml ac a wyliodd yn hir. Ceir peth tebyg yng ngweithiau mwy nag un o'r hen feirdd Cymreig. Rywfodd, mae'r peth y bônt yn cyffelybu iddo fel pe bae'n cyfodi o flaen eu meddyliau yng ngogoniant rhyw olwg a gawsant arno, y tu hwnt i ofynion manwl y peth y bônt yn ei gyffelybu, a thaflant hwythau yr olygfa oll i'r gymhariaeth, fel y gwelsant hi, ac fel y mae hithau yn aros fyth yn nhrysorau y cof. "A thing of beauty is a joy for ever." Engraifft dda o hyn yw'r darn a ganlyn, lle mae'r bardd yn cyffelybu swn byddin i dwrf llifogydd:

"

Their sound was like a thousand streams that meet in Cona's vale, when after a stormy night they turn their dark eddies beneath the pale light of the moon." ("Fingal.")

Ceir yr un peth yng waith y bardd yn cyffelybu tarian Fingal i "fflam ar y rhos yn yr hwyr, pan fo'r byd yn ddistaw a thywyll, a

phan welo'r teithiwr ryw ysbryd yn gwibio yn y llewyrch;" ac eto pan gyffelyba feibion Erin yn disgwyl y gelyn i "drum o greigiau ar y traeth, pan fyddo'r morwyr ar lannau anhysbys, yn crynnu rhag y gwyntoedd croesion." Yr oedd Agandecca, merch brenin Llychlyn, yn wen fel yr ôd, a phan wanodd ei thad hi yn ei hystlys am rybuddio Fingal rhag brad y brenin, ymollyngodd i lawr fel torch o eira oddi ar y graig. Cerddodd harddwch cwymp yr eira drwy feddwl y bardd, ac yn ei gymhariaeth, disgrifiodd yr olygfa fel y gwelodd hi rywdro

"She fell like a wreath of snow, which slides from the rocks of Ronan, when the woods are still and echo deepens in the vale." ("Fingal.") Yr oedd Sul-Malla, pan ganai Ossian glod Cathmor, y pennaeth oedd "yn ei henaid hi, fel tân cudd ar y rhos, a ddeffry wrth lais y gwynt ac a enfyn ei lewyrch ymhell," yr oedd hi yn symud fel awel yr haf, a chrwydrodd meddwl y bardd ymhell gyda'r awel honno

"Amidst the song removed the daughter of kings, like the voice of a summer breeze, when it lifts the heads of flowers and curls the lakes and streams. The rustling sound spreads o'er the vale, softly-pleasing as it saddens the soul." ("Sul-Malla.")

Ym mrwydr Inis-thona, yr oedd gelynion Oscar "yn croesi'r anial fel cymylau'r storm, pan rolio'r gwyntoedd hwy ar draws y rhos; mae eiliw'r fellten ar eu godre hwy, a'r llwyni 'n adsain gan rag weld y storm."

Nid yw'r bardd heb gymhariaethau tebyg i rai beirdd eraill, a chyhuddwyd Macpherson o ddwyn pob cyffelybiaeth a llun oddi ar rywrai neu gilydd, gan ei feirniaid. Ebe'r bardd—

"The light of the song rises in Ossian's soul! It is like the field when darkness covers the hills around and the shadow grows on the plain of the

[merged small][ocr errors]

Dygwyd y gyffelybiaeth hon, ebr un beirniad, o linell gampus Vergil

Majoresque cadunt altis de montibus umbræ."

Ond ni fuasai raid i awdwr y cyffelybiaethau a ddyfynnwyd uchod, cyffelybiaethau a nôd mor bersonol arnynt, fenthyca llygaid neb arall i weled peth mor gyffredin. Buasai rhywfaint mwy o lewyrch ar ei gyhuddo o ddwyn cyffelybiaeth fel yr isod

"She came on his troubled soul, like a beam to the dark-heaving ocean, when it bursts from a cloud and brightens the foamy side of a wave." ("Colna-dona.")

Oni chanodd bardd Cymreig, ganrifau cyn oes Macpherson ?

"Gwery fanon fanwl gwar feddwl faith

Gorne gwawr fore ar fôr diffaith."

Ond hwyrach mai oddi ar Ossian y dug y Cymro hi! Eithr gwae feirdd goreu'r byd, namyn y cynaraf ohonynt, pwy bynnag ydoedd, pedfai peth felly feirniadaeth !

Yr oedd y bardd mor gynefin â'r môr ag â'r mynydd. Disgrifia elynion Trathal yn dyfod ymlaen "fel drum ddu o donnau, a'r beirdd gwalltwyn fel ewyn yn symud ar eu hwyneb." Mewn cerdd arall, disgrifia'r gelyn" yn dyfod fel tonnau yn y niwl, pan weler eu brigau ewynnog ar brydiau dros y tawch a fo'n nofio'n isel." Yr wyf yn cofio gwylio'r tonnau drwy dawch felly yn torri ar y creigiau ger Aberystwyth, ac nid anghofiaf fyth mo'r olygfa.

Nid wyf fi yn cofio ychwaith weled gan unrhyw fardd arall gyfeiriad at y math o lin gwyllt, os iawn ei alw felly, a dyf hyd leoedd llaith ar rosydd uchel-mae digonedd ohono ar Fynydd Hiraethog -rhyw gyrs byrion eiddil, ac ar eu blaenau duswau bychain claerwyn o beth tebyg i lin sidanaidd. Cyffelyba'r bardd wynder mynwes un o rianedd ei gerddi i'r llin gwyllt hwnnw—

"If on the heath she moved, her breast was whiter than the down of Cona."

Clywodd yntau dristwch su'r awel drwy hesg a brwyn y llynnoedd a chrawcwellt y creigiau. Yr oedd llais y ferch a foddwyd yng ngolwg ei thad yn "darfod fel awel yr hwyr yng nghrawcwellt y creigiau;" ac yr oedd cŵyn Vinvela, a dorrodd ei chalon wedi myned ei chariad i'r rhyfel, "fel yr awel yn hesg y llyn." Y peth tlysaf a thyneraf yn y cerddi i gyd yw hanes Vinvela a Shilric yn y gerdd "Carric-thura." Daeth Shilric o'r gad i ddisgwyl ei gariad ar y mynydd mwsoglyd

"Pe deuit i'r golwg, f'anwylyd,

Gan grwydro y rhos ar dy hynt,
A'th fynwes i'w gweld yn ymchwyddo,
A'th wallt ar dy ol yn y gwynt ;
Dy lygaid yn ddeigr am gyfeillion
A guddiodd y niwl wedi'r gad,
Cysurwn dydi, fy anwylyd,

Fe'th ddygwn i dŷ fy nhad.

Fel paladr o wawl ar y rhosdir,
Ai hi acw yn dyfod a gaf?
Cyn loewed â'r lloer yn yr hydref,
Neu'r haul drwy ystorm yn yr haf,

A wyt ti yn dyfod, O riain,

Hyd ataf dros graig a thros fryn ?
Mae'n dod, ond mor wan ei lleferydd!
Fel awel yn hesg y llyn.

"A ddaethost o'r gad yn ddiogel?
Pa le mae'th gyfeillion i gyd?

[blocks in formation]
[ocr errors][merged small][merged small][merged small]

Ceir y tynerwch hwn mewn llawer o'r cerddi, ac weithiau, cyfyd hyd y gofid gwyllt a geir mewn rhai o'r hen gerddi Gaeleg nad oes amheuaeth yn y byd am eu dilysrwydd, megys gofid y mab a orfu dorri pen ei dad, yn yr hen chwedl ryfeddol honno, "Caol Reathainn," a gofid Cuchulainn ar ol lladd ei fab Connlaoch mewn brwydr heb ei adnabod. Darn o'r natur hwnnw yw galar yr hen bennaeth a welodd golli ei ddau fab a'i ferch yr un dydd :—

"Arise, winds of autumn, arise; blow along the heath! Streams of the mountain, roar! roar, tempests, in the groves of my oaks! Walk through broken clouds, O moon! show thy pale face at intervals! Bring to my mind the night when all my children fell!" ("Songs of Selma.")

Mae cyfarchiadau'r bardd i seren yr hwyr, i'r lleuad ac i'r haul hefyd yn brydferth iawn, yn enwedig ei annerch i'r haul :—

Hast thou left thy blue course in heaven, golden-haired son of the sky! The west has opened its gates: the bed of thy repose is there. The waves come to behold thy beauty. They lift their trembling heads. Thy see thee lovely in thy sleep; they shrink away with fear. Rest in thy shadowy cave. O sun! let thy return be in joy!" ("Carric-thura.")

Yr oedd gennyf ychwaneg lawer o ddyfyniadau, ond hwyrach y dengys a roddwyd eisoes fod awdwr y cerddi hyn, pwy bynnag y mynner ei fod, yn fardd nid cyffredin, hyd yn oed os na chlyw y darllennydd yn ei waith adlais yr hen oesau gynt, pan oedd y byd yn ieuengach a bywyd yn symlach.

T. G. J.

YSGOLION DUWINYDDOL ORIGEN.

UN o'r gwirioneddau mwyaf amserol a lefarwyd ar adeg hanesyddol agoriad y Coleg Duwinyddol yn Aberystwyth oedd dywediad Prifathraw hyddysg y Bala pan yn darbwyllo dysgawdwyr y Coleg Cenedlaethol gyda golwg ar flaenoriaeth yr athrofa newydd ar yr hen, canys merch yr ysgol grefyddol oedd yr ysgol a hyfforddaj mewn llen a gwyddor. Oddiwrth yr ysgolion mynachaidd y tarddodd athrofeydd Ewrop; duwinyddiaeth yn ei gwahanol ranau, gan gynhwys yn arbennig resymeg, athroniaeth, a'r gyfraith, oedd y wybod aeth a efrydid ynddynt hwy gyntaf; ac eglwyswyr, neu o leiaf duwinyddion o fri, oedd y proffeswyr cyntaf. Ysgol fynachol y ddau archesgob enwog a ddyrchafwyd i gôr Awstin Fynach yn Nghaergaint gan y ddau William Normanaidd, a roddodd fôd i Brifysgol Paris yn y ddeuddegfed ganrif. Yno, yn Bec, y dadleuasai Lanfranc dros draws-sylweddoliad, ac yr ysgrifenasai Anselm ei ddadl anfarwol ar yr Ymgnawdoliad. Yn y ganrif ganlynol, ni a gawn yn ysgol Albert Fawr, y mynach o urdd Dominic yn Cologne, ffynhonell athrofeydd yr Almaen.

Yn y byd paganaidd, bid sicr, yr oedd athrofeydd hyglod eisoes yn ffynu pan aeth yr Apostolion allan i bregethu'r Efengyl i'r holl fyd; ond nid oedodd Cristionogaeth fwrw ymresymiadau i lawr, canys hi a sylweddolai bwysigrwydd athrawiaeth a dysgeidiaeth. Nesaf at yr apostol a'r proffwyd yn y rhestr o roddion y Crist esgynedig i ddynion, gosodai Paul yr athraw gyda'r bugail. Derbyniasai efe ei hun bob dawn ysbrydol, ond gallwn fod yn sicr na werthfawrogai efe un o'r galluoedd gwyrthiol oedd yn gysylltiedig â'i apostolaeth yn fwy na'i alwad i fod yn athraw y Cenedloedd,"ac ystyriai'r cymhwysder i addysgu eraill-bod yn athrawaidd neu athrawus-yn anhebgor esgob a gwas yr Arglwydd. Yn Athen, efe a ddaeth i wrthdarawiad â disgyblion Epicurus a Zeno, a gwysiwyd ef gerbron y cynghor hybarch a arferai eistedd ar fryn Mawrth, fel proffeswr ar ei brawf gerbron llys prifysgol, modd y penderfynid a ellid caniatau iddo gyhoeddi ei athrawiaeth newydd yn ninas Socrates a Plato. Yn Ephesus, efe a ddysgai yn ysgol Tyrannus, fel y gwnai Justin Ferthyr yn Rhufain, ganrif yn ddiweddarach, gyfarfod a'i ddisgyblion yn nhŷ un Martin, gerllaw un o drochfeydd (baths) y ddinas. Ac y mae adnod olaf llyfr yr Actau yn desgrifio Paul, yu ei dŷ ardrethol yn Rhufain, yn athrawiaethu yn ddiwahardd -er gwaethaf y milwr-i bawb a'r oedd yn dyfod i mewn ato. Dyma ddarlun o'r hyn a gymerai le ar raddfa fwy yn Alexandria, ganrif a hanner yn ddiweddarach, pan na chai Origen gymaint ag

« EelmineJätka »